Y Pwyllgor Cyllid

FIN(4) 12-12 – Papur 1

 

Cyfraniad Gwerth Cymru at Gyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

 

Papur Tystiolaeth gan Alison Standfast

Dirprwy Gyfarwyddwr Gwerth Cymru, Llywodraeth Cymru

 

 

 

Cefndir

 

1.         Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) sy'n gyfrifol am reoli'r modd y gweithredir rhaglenni'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, sy'n werth ychydig llai na £2 biliwn o gronfeydd yr UE dros y saith mlynedd rhwng 2007 a 2013, er mwyn sbarduno buddsoddiad gwerth dros £3bn i gyd (gan gynnwys arian cyfatebol). Mae hyn yn cynnwys rhaglenni Cydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a'r rhaglenni Cystadleurwydd llai yn Nwyrain Cymru. Mae Cymru hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o raglenni cydweithio tiriogaethol, gan gynnwys rhaglen drawsffiniol Iwerddon/Cymru a reolir gan yr Awdurdodau Gwyddelig.

2.         Mae'r rhan helaethaf o'r broses o weithredu'r rhaglenni hyn wedi'i chwblhau. Bron i bum mlynedd ers i gyfnod y rhaglen ddechrau, mae WEFO wedi ymrwymo £1.7 biliwn (91% o gronfeydd yr UE sydd ar gael) i 267 o brosiectau, sy'n golygu bod cyfanswm y buddsoddiad yng Nghymru dros £3.5 biliwn.

 

3.         Mabwysiadodd WEFO ddull cyflawni mwy strategol ar gyfer cyfnod y rhaglen bresennol, gan roi mwy o bwyslais ar amcanion, allbynnau a chanlyniadau er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei ddefnyddio'n fwy effeithiol ac osgoi gwastraff a lleihau dyblygiad.

4.         Rhoddir mwy o bwyslais hefyd ar gaffael agored a chystadleuol, ar lefel prosiectau,  sy'n offeryn pwysig er mwyn cael y gwerth gorau am arian a sicrhau bod manteision cronfeydd yr UE ar gael i bawb a allai gael budd ohonynt, a hynny mewn modd teg ac agored.

 

5.         Dengys data gan WEFO ar y sefyllfa ar 30 Mehefin 2012 mai'r amcangyfrif o gyfanswm y gweithgarwch caffael wrth weithredu'r prosiectau a gymeradwywyd gan yr UE yw £1.17bn, a, lle bo'r ymarferion  caffael wedi'u cwblhau, bod y prosiectau a gymeradwywyd wedi dyfarnu contractau gwerth £843m i sefydliadau. Mae dros 1,040 o gontractau (gwerth £462m) wedi'u dyfarnu i'r sector preifat, 280 (gwerth £263m) i'r sector cyhoeddus, a thua 435 (gwerth £118m) i'r trydydd sector.

 

 

6.         Cyhoeddodd WEFO ganllawiau diwygiedig ar y modelau cyflawni prosiectau a defnyddio caffael ym mis Hydref 2010.  Cyflwynodd y canllawiau diwygiedig y cyfle i'r prosiectau ddefnyddio grantiau cystadleuol, a fabwysiadwyd eisoes ar gyfer prosiect Porth CGGC, fel dull amgen o sicrhau gwerth am arian wrth gyflawni prosiectau.   

 

 

Swyddogaeth Gwerth Cymru

 

7.         Is-adran o fewn Llywodraeth Cymru yw Gwerth Cymru, a'i swyddogaeth yw gwella'r arferion a'r canlyniadau sy'n deillio o'r caffael cyhoeddus gwerth £4.3 biliwn a welir yng Nghymru bob blwyddyn. Mae ei gangen Gwasanaethau Caffael Corfforaethol yn rhoi cyngor, canllawiau a sicrwydd i Adrannau Llywodraeth Cymru. Mae ei gangen Polisi yn rhoi canllawiau cyffredinol i'r sector cyhoeddus ehangach. Ceir cangen o fewn yr Is-adran hefyd sy'n gweithredu rhaglen e-gaffael ledled Cymru, cangen arall sy'n creu ac yn rheoli cytundebau Cymru gyfan ar gyfer nwyddau a gwasanaethau cyffredin, ac un arall sy'n rheoli prosiect  Defnyddio Doniau Cymru, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, er mwyn mynd i'r afael â'r diffygion yng ngalluoedd caffael y sector cyhoeddus.

 

8.         Os mai Llywodraeth Cymru sy'n noddi prosiect, mae Gwasanaethau Caffael Corfforaethol Gwerth Cymru yn darparu gwasanaeth rheoli tendr llawn ar gyfer yr holl weithgarwch caffael.

 

9.         Os mai corff cyhoeddus arall sy'n noddi prosiect, mae Gwerth Cymru yn rhoi cyngor a chanllawiau drwy ei ganllaw cynllunio caffael ar-lein neu ei flwch negeseuon Polisi.

 

10.       Os yw noddwr y prosiect yn sefydliad trydydd sector neu sector preifat, gall Swyddog Datblygu Prosiectau yn WEFO - sy'n gyfrifol am oruchwylio'r prosiect - ofyn am gyngor ac arweiniad gan gangen Gwasanaethau Caffael Corfforaethol Gwerth Cymru ar ran noddwr y prosiect.  Mae'r broses hon yn sicrhau bod yna ddull llywodraethu prosiect llawn ar waith ac yr ymdrinnir ag ymholiadau mewn modd effeithiol. Gall yr ymholiadau hyn fod yn rhai cymhleth lle mae gofyn asesu'r broses gaffael yn ofalus ac yn fanwl.

 

11.       Gall yr holl noddwyr weld canllawiau'r modelau ‘Noddi a Darparu’. Fe wnaeth Gwerth Cymru gynorthwyo WEFO i gynhyrchu'r rhain. Maent yn cynnwys cyngor a chanllawiau llawn ynghylch yr arferion caffael gorau. Maent hefyd yn cynnwys adran cwestiynau cyffredin.

 

12.       Gall yr holl noddwyr hefyd weld Canllaw Cynllunio Caffael Gwerth Cymru drwy www.prynwchigymru.co.uk. Mae hwn yn cynnig cyngor a chanllawiau cyffredinol ar gaffael ac fe gyfeirir pobl ato o ganllawiau'r modelau Noddi a Darparu.

 

13.       Ym mlynyddoedd cynnar Rhaglenni'r UE cynigiodd Gwerth Cymru hyfforddiant hefyd i staff a Swyddogion Datblygu Rhaglenni WEFO. Yn fwy diweddar, comisiynodd WEFO  hyfforddiant gan ddarparwr hyfforddiant allanol oedd dan gontract i Gwerth Cymru. Dilynodd staff WEFO gwrs ar “Gaffael Effeithiol sy'n Cydymffurfio”, yn ogystal â 60 o gynrychiolwyr o'r trydydd sector a 68 o'r Awdurdodau Lleol.